Sport Wales National Centre
Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
Sophia Gardens | Gerddi Sophia
Cardiff | Caerdydd
CF11 9SW
0300
3003123
www.sport.wales
| www.chwaraeon.cymru
CEO | Prif Weithredwr : Brian Davies
Chair | Cadeirydd: Baroness, Y Farwnes Tanni Grey-Thompson DBE,
DL
Delyth Jewell AS
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
20.07.2023
Annwyl Gadeirydd,
Ysgrifennaf atoch yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor ar honiadau’n ymwneud â honiadau o ymddygiad amhriodol o fewn Undeb Rygbi Cymru. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi a’r pwyllgor ehangach am eich ymgysylltu yn ystod yr ymchwiliad. Roedd Chwaraeon Cymru yn falch o allu rhannu ei brofiad, ei arbenigedd a’i arferion gyda’r Pwyllgor i helpu fel sail i'w waith.
O ran yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad, roeddwn yn teimlo ei bod yn briodol ysgrifennu’n benodol am argymhelliad 6 a oedd yn galw ar Chwaraeon Cymru i weithredu. Roedd yr argymhelliad hwnnw’n nodi:
Dylai Chwaraeon Cymru ystyried y cyllid mae’n ei ddarparu i gyrff rheoli cenedlaethol yng ngoleuni unrhyw honiadau o ymddygiad amhriodol o fewn y cyrff rheoli hyn.
Mae Chwaraeon Cymru yn derbyn yr argymhelliad. Byddai Chwaraeon Cymru, fel rhan o’i broses gallu ac atebolrwydd, bob amser yn ystyried y cyllid mae’n ei ddarparu yng ngoleuni unrhyw honiadau o ymddygiad amhriodol. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol, ond ar draws ein rhwydwaith partneriaid llawn sy'n cael ei gyllido.
Bu achlysuron pan ddarparwyd gostyngiadau mewn cymorth ariannol, taliadau fesul cam neu ddisgwyliadau ychwanegol yn unol ag unrhyw gynigion i liniaru risg. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynnig ffurfiol i Undeb Rygbi Cymru tra rydym yn aros am gynnydd gyda chynllun gwella penodol.
Yn ogystal, bydd ein hadolygiad o'r fframwaith gallu a'n dull o ddatblygu atebolrwydd yn cryfhau'r ymrwymiad hwn ymhellach gyda fframwaith gwell, gan gynnwys gweithredu polisi cwynion newydd.
Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn helpu i roi sicrwydd i’r Pwyllgor nid yn unig o ran ein hymrwymiad i ddiogelu arian cyhoeddus a sicrhau ei fod mor effeithiol â phosib ymhlith y rhai rydym yn buddsoddi ynddynt, ond hefyd ein hymrwymiad parhaus i gefnogi gwelliant parhaus o fewn llywodraethu ac ymddygiadau partneriaethau ar draws y sector chwaraeon.
Yn Gywir,
Brian Davies
Prif Weithredwr
Chwaraeon Cymru